Cyflwynwyd yr ymateb hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

This response was submitted to the Children, Young People and Education Committee on the Welsh Language and Education (Wales) Bill

WLE 16
Ymateb gan: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Response from: Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) yn croesawu’r cyfle hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ac i ddod gerbron y Pwyllgor i roi tystiolaeth lafar ar 17 Hydref fel rhan o’r broses craffu ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

Mae’r Coleg Cymraeg yn creu ac yn hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, ysgolion, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ryn ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.  

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog, gan gynnwys y gweithlu addysg ei hun.

1.      Egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir.

1.1.   Mae’r Coleg yn croesawu egwyddorion cyffredinol y Bil ac o’r farn bod deddfu’n hanfodol i gyflawni’r bwriadau polisi. Deddfu yn y modd hwn fydd yn sicrhau bod y bwriadau polisi’n flaenoriaeth i’r holl randdeiliaid perthnasol, ac yn gosod sail ar gyfer y math o gydweithio fydd yn angenrheidiol i sicrhau llwyddiant. Tu hwnt i’r ddeddfwriaeth, bydd angen sicrhau cyllid digonol a dulliau o gydweithio sy’n ennyn brwdfrydedd ac ewyllys da.

1.2.   Rhan 1: Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg: Croesawn yn fawr bod y Bil yn gosod nifer o elfennau o Strategaeth y Gymraeg ar sail statudol, gan gynnwys y targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, a’r gofyniad i bennu targedau ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac yn gymdeithasol. Rydym o’r farn y bydd rhoi sail statudol i’r darpariaethau hyn yn yriant sylweddol ac anhepgor ar gyfer gweithredu ar lefel leol a chenedlaethol. Yn yr un modd croesawn yr egwyddor o bennu targedau ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg a chynyddu nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg, a’r pwyslais a roddir ar drosglwyddiad y Gymraeg. Cytunwn fod pennu meini prawf i fesur cynnydd, yn ogystal â gosod trefniadau adrodd clir yn eu lle, yn angenrheidiol.

1.3.   Cytuna’r Coleg yn gryf â’r rôl gryfach a bennir yn y Bil i Gomisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â Strategaeth y Gymraeg. Cefnogwn yn ogystal y gofyniad i adolygu Safonau’r Gymraeg er mwyn harneisio potensial eu grym sylweddol at ddiben cyflawni nodau polisi’r Bil, ac yn arbennig felly ar sail y Cod arfaethedig i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg.

1.4.   Rhan 2: Disgrifio gallu yn y Gymraeg: Gwelwn botensial aruthrol i’r bwriad arloesol o greu Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg wedi’i seilio ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd (CEFR). Mae’r Coleg o’r farn y byddai cod o’r fath yn creu cysondeb fyddai’n gosod sail gadarn ar gyfer cynllunio ieithyddol ar draws sectorau gan gynnwys addysg statudol, ôl-orfodol a gweithluoedd, ac yn hwyluso cynllunio a chydweithio strategol i wireddu amcanion y Bil a Strategaeth y Gymraeg.

1.5.   Rhan 3: Addysg Gymraeg: Gan fod y sector addysg i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol yn gwbl ganolog i dwf yn nifer y siaradwyr ac i gynyddu’r defnydd o’r iaith – oddi fewn i’r sector ac ymhell tu hwnt - croesawn y ffaith fod y Bil yn rhoi sail statudol ar gyfer mecanweithiau i gynllunio a mesur cynnydd yn y sector. Cytunwn gyda’r egwyddor o ddynodi categori iaith i bob ysgol, a bod hynny’n rhoi sail ar gyfer gofynion cynllunio statudol ar lefel ysgol (cynlluniau cyflawni) ac ar lefel awdurdod lleol (cynlluniau strategol lleol, yn Rhan 4) gan gynnwys y gofyniad i ddarparu ac annog y galw am addysg drochi hwyr. Er ein bod ni’n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Rhan hon o’r Bil, mae gennym rai sylwadau mwy penodol islaw yn adran 3 ac adrannau 4.3-4.4.

1.6.   Rhan 4: Cynllunio Addysg a Dysgu Cymraeg: Cytuna’r Coleg â’r gofyniad i Weinidogion Cymru lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg fel cerbyd ar gyfer cynllunio a sicrhau cynnydd dros amser, gan gynnwys trwy osod targedau ar gyrff eraill a monitro cyflawniad yn erbyn y targedau hynny, ac adrodd yn gyhoeddus arnynt.

1.7.   Fodd bynnag, mae un mater o egwyddor gyffredinol sy’n destun pryder sylweddol i’r Coleg sy’n ymwneud â chwmpas y Fframwaith Cenedlaethol.

1.8.   Ar hyn o bryd, cyfeiriadau anuniongyrchol a geir yn Rhan 4 y Bil at addysg drydyddol yng nghyd-destun y Fframwaith Cenedlaethol:

·         23(3)(e)(ii) a 28(2)(d)(ii) mewn perthynas ag annog dilyniant o ran addysgu Cymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol

·         23(4)(c) mewn perthynas â ‘dysgu Cymraeg’ yn y sector; rydym yn dehongli ‘dysgu Cymraeg’ fel dysgu sgiliau ieithyddol Cymraeg, ac nid addysg drwy gyfrwng y Gymraeg

1.9.   Nid oes cyfeiriad uniongyrchol felly yn y Bil ar hyn o bryd at addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn perthynas â’r Fframwaith Cenedlaethol. Mae Estyn, yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor, wedi dweud “Ar wahân i’r dyletswydd i ymgysylltu â Medr ar y fframwaith, nid oes digon o eglurdeb sut mae’r fframwaith a’r dyletswyddau eraill yn y Bil yn cyd-fynd gyda dyletswyddau Medr...” [1].

1.10.                    Deallwn mai bwriad polisi Llywodraeth Cymru yw bod addysg drydyddol yn dod dan gwmpas y Fframwaith Cenedlaethol. Byddai’r Coleg yn croesawu’r bwriad polisi hwn, ond nid yw Rhan 4 y Bil, na’r Memorandwm Esboniadol, yn darparu’n glir ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Yn sgil hynny, rydym o’r farn bod cyfle hollbwysig yn cael ei golli i sicrhau fframwaith cynllunio a gweithredu strategol cyfannol a fyddai’n hwyluso llwybrau dilyniant i ddysgwyr.

1.11.                    Byddai ymestyn y diffiniad o ‘addysg Gymraeg’ yn adran 35 i gynnwys addysg drydyddol yn sicrhau bod y bwriad polisi, a’r cyfrifoldebau a disgwyliadau dilynol, yn gwbl glir.

1.12.                    O gadarnhau bod addysg drydyddol o fewn cwmpas y Fframwaith Cenedlaethol, byddai’n synhwyrol i ychwanegu’r Coleg at y rhestr o gyrff y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â nhw wrth lunio neu ddiwygio’r Fframwaith, yn adran 26(1).

1.13.                    Ymhellach i hynny, mae adran 23(3)(e)(ii) yn cyfeirio’n benodol at ‘annog dilyniant’. Ni fydd anogaeth o’r fath yn ddigonol yn ei hun, heb fodolaeth llwybrau dilyniant addas. Gallai’r Bil wneud darpariaeth i leihau’r risg o ddiffyg llwybrau dilyniant trwy addasu’r cymal i gyfeirio at ‘annog a chynnal dilyniant’. Mae’r Coleg o’r farn y byddai hynny’n  debygol o arwain at gynllunio strategol fyddai’n canolbwyntio ar sicrhau llwybrau dilyniant priodol.

1.14.                    Rhan 5: Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol: Cytuna’r Coleg ag egwyddorion sylfaenol y Rhan hon o’r Bil.

1.15.                    Byddai datrys y mater rydym wedi’i godi ynghylch y diffiniad o ‘addysg Gymraeg’ yn Rhan 4 y Bil yn osgoi unrhyw amwysedd posib ynghylch cylchoedd gwaith ac yn gosod sail ar gyfer cydweithio effeithiol rhwng Medr, y Coleg a’r Athrofa.

2.      Oes unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil ac a yw'r Bil yn eu hystyried?

2.1.   Gwela’r Coleg y potensial i gryfhau’r Bil mewn ffordd fyddai’n helpu i osgoi rhai rhwystrau amlwg, a chynyddu’r tebygolrwydd o wireddu’r amcanion polisi.

2.2.   Y gweithlu addysg: Wrth ymateb i’r Papur Gwyn, nododd y Coleg (a nifer sylweddol o randdeiliaid allweddol eraill) ei bryderon ynghylch y graddau y mae uchelgais clodwiw y Bil yn ddibynnol ar sicrhau gweithlu addysg digonol. Gwyddom gymaint o her yw hynny ar hyn o bryd, ac er mwyn gwireddu’r uchelgais, bydd angen cyflenwad mwy fyth.

2.3.   Rydym yn cydnabod y rôl bwysig mae’r Bil yn ei roi i’r Athrofa mewn perthynas â ‘datblygu’r gweithlu addysg at ddiben gwella dulliau addysgu’r Gymraeg’ a ‘darparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg i’r gweithlu addysg’. Mae hynny’n gwbl hanfodol, ond nid yw’n ddigon ynddo’i hun; mae materion ehangach sydd angen ystyriaeth.

2.4.   Mae’r Coleg yn ategu barn Comisiynydd y Gymraeg yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor “y gellid mynegi’r flaenoriaeth hon yn gliriach drwy osod dyletswydd yn y Bil ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi Cynllun Gweithlu Addysg Gymraeg fel rhan o’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg a Dysgu Cymraeg.”[2]

3.      Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth

3.1.   Mae gennym bryder ynghylch un maes penodol, sef categorïau iaith ysgolion. Amlinella’r Bil y tri chategori iaith arfaethedig [9(2)], gan roi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ‘bennu’r swm o addysg Gymraeg a ddarperir ar gyfer pob categori iaith, gan gynnwys isafswm o ddarpariaeth addysg Gymraeg’ [10(1)].

3.2.   Mae’r Coleg yn cytuno mai’r lle priodol ar gyfer manylder y categorïau yw mewn rheoliadau, ac rydym yn cydnabod bod y Bil yn gwneud rhai darpariaethau ynghylch y categorïau a fydd yn helpu i siapio gwaith y Gweinidogion wrth lunio’r rheoliadau (e.e. gosod ‘nodau dysgu’ Cymraeg fesul categori).

3.3.   Fodd bynnag, rydym o’r farn bod y pŵer i wneud rheoliadau yn y maes hwn yn rhy benagored.

3.4.   Yn gyntaf, awgrymwn fod angen datgan yn glir ar wyneb y Bil bod y ‘swm o ddarpariaeth addysg Gymraeg sydd i’w ddarparu yn yr ysgol’ yn berthnasol i bob disgybl o fewn yr ystod berthnasol (disgyblion o oedran ysgol gorfodol, o fewn blynyddoedd ysgol perthnasol, ac, mewn ysgolion dwy ffrwd, o fewn y ffrwd a ddynodir i’r categori iaith dan sylw). Mae angen osgoi bod modd i’r ‘swm o ddarpariaeth addysg Gymraeg’ fod yn gyfartaledd ar draws carfannau o fewn yr ysgol ble mae rhai â swm uwch o ddarpariaeth, ac eraill â swm is. Os oes symiau gwahanol o ddarpariaeth ar gyfer gwahanol garfannau o fewn yr ysgol, bydd angen eu dynodi dan gategorïau gwahanol.

3.5.   Yn ail, byddai risg i amcanion polisi’r Bil petai’r rheoliadau’n methu â diffinio’n ddigon clir, mewn perthynas â’r categori ‘Prif Iaith – Cymraeg’, yr hyn sy’n cyfateb ar hyn o bryd i gategori 3P ble mae disgyblion yn dilyn o leiaf 90% o’r meysydd dysgu a phrofiad a gweithgareddau ysgol y tu allan i’r dosbarth yn y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod rôl hanfodol addysg ‘cyfrwng Cymraeg’ ar gyfer cynhyrchu siaradwyr Cymraeg, o bob cefndir, sy’n hyderus i ddefnyddio’r iaith mewn amryw o gyd-destunau (gan gynnwys llwybrau dilyniant trwy addysg drydyddol i weithluoedd).

3.6.   Ni fyddem am weld diffyg eglurder ar wyneb y Bil yn arwain at reoliadau a allai ganiatáu gwanhau’r diffiniad o addysg cyfrwng Cymraeg, a allai yn ei dro danseilio gallu’r system addysg i gyrraedd y targedau a osodir drwy’r Fframwaith Cenedlaethol.

4.      A oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil?

4.1.   Mae’r Coleg yn bryderus am ganlyniadau anfwriadol posib mewn tri maes:

·         Addysg drydyddol

·         Gwarchod addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion

·         Y Gymraeg fel pwnc academaidd

4.2.   Addysg drydyddol: Gallai'r aneglurder rydym wedi’i amlygu uchod (1.8-1.11) ynghylch diffiniad a pherthnasedd y sector drydyddol yn Rhan 4 y Bil arwain at ganlyniadau anfwriadol megis amwysedd a chamddealltwriaeth ynghylch cyfrifoldebau, a cholli cyfleoedd i sicrhau cynllunio strategol cyfannol fyddai’n gosod y sail ar gyfer llwybrau dilyniant i ddysgwyr.

4.3.   Gwarchod addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion: Mae bwriad y Bil i symud holl ysgolion Cymru ar hyd continwwm ieithyddol yn glir ac i’w groesawu’n fawr; dyma’r unig ffordd o sicrhau y caiff pob disgybl yng Nghymru y cyfle i ddod yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol neu hyfedr, dros amser.

4.4.   Fodd bynnag mae gennym bryder y gallai’r diffyg gwahaniaethu mewn rhai mannau yn y Bil rhwng ‘addysg cyfrwng Cymraeg’ ac ‘addysgu’r Gymraeg’ (fel ‘ail iaith’) arwain at ddiffyg ffocws ar warchod a chynyddu ‘addysg cyfrwng Cymraeg’, sydd mor hanfodol ar gyfer gwireddu amcanion strategaeth Cymraeg 2050, a’r Bil ei hun. Rhaid i’r Bil fod yn gwbl glir yn hyn o beth er mwyn rhoi’r sail i’r Fframwaith osod targedau clir, diamwys. Byddai unrhyw leihad yn nifer y disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn peryglu llwybrau dilyniant trwy addysg drydyddol ac i weithluoedd dwyieithog yn y pen draw.

4.5.   Y Gymraeg fel pwnc academaidd: elfen arall o’r Bil a allai arwain at ganlyniadau anfwriadol, ac at golli cyfleoedd pwysig, yn sgil diffyg eglurder, yw mewn perthynas â’r Gymraeg fel pwnc academaidd (e.e. TGAU, Safon Uwch, gradd yn y Gymraeg).

4.6.   Mae’r Coleg o’r farn bod angen sylw penodol yn y Bil, ac oddi fewn i’r Fframwaith Cenedlaethol, i’r Gymraeg fel pwnc academaidd, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sydd tu hwnt i oedran ysgol gorfodol, ac nad yw hynny’n bosib ar hyn o bryd, am nad oes modd ei wahaniaethu oddi wrth y categorïau a restrir yn 23(1)(a)-(c).

4.7.   Mae astudio’r Gymraeg fel pwnc yn angenrheidiol ond yn annigonol i greu defnyddwyr Cymraeg annibynnol (B2). Rhaid atgyfnerthu astudio’r Gymraeg fel pwnc gyda phrofiadau dysgu cyfrwng Cymraeg mewn meysydd dysgu eraill. Byddai gwahaniaethu yn y Fframwaith rhwng addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg yn y Gymraeg fel pwnc yn caniatáu creu liferi a mesuryddion er mwyn sicrhau bod y ‘swm o addysg Gymraeg a ddarperir’ mewn ysgol yn ddigon dwfn ac eang i greu defnyddwyr sy’n gallu defnyddio’r iaith tu hwnt i’r dosbarth Cymraeg.

4.8.   Er bod y Gymraeg yn rhan fandadol o’r cwricwlwm ar gyfer pob blwyddyn ysgol yn y cyfnod statudol gan gynnwys Blynyddoedd 10 ac 11, mae patrwm y ddarpariaeth ôl-16 yn eithriadol o fregus. Gwyddom y gall fod yn heriol darbwyllo dysgwyr i astudio’r pwnc, a hynny am amryw o resymau; ond hyd yn oed pan mae grŵp o ddysgwyr yn awyddus i wneud, nid yw’r ddarpariaeth o reidrwydd ar gael.

4.9.   Addysg yn y Gymraeg fel pwnc academaidd yw’r prif fodd o greu defnyddwyr hyfedr (C1 a C2). Yn ymarferol, dim ond drwy ddiogelu a hybu Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf ac Ail Iaith) mae creu gweithluoedd sylweddol sydd â sgiliau uwch (C1 neu C2) yn y Gymraeg, yn enwedig athrawon all ddysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg a thiwtoriaid Cymraeg. Mae cynyddu’r gweithluoedd hyn yn allweddol er mwyn cyflawni amcanion y Bil.

4.10.                    Rydym o’r farn y gallai bod manteision sylweddol felly i gyfeirio at y Gymraeg fel pwnc academaidd fel un o’r categorïau yn adran 23(1) fel y meysydd y bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn y Fframwaith Cenedlaethol, yng nghyd-destun strategaeth y Gymraeg.

 

 



[1] https://busnes.senedd.cymru/documents/s153928/Papur%206%20Estyn.pdf

[2] https://busnes.senedd.cymru/documents/s153711/Papur%201%20Comisiynydd%20y%20Gymraeg.pdf